Quakers have been called "practical mystics" because of our combining deep mystical insights with direct social action
Please see our Peace and Social Witness News page for news of specific projects and actions
Mae’r Crynwyr wedi eu galw’n “gyfrinwyr ymarferol” am ein bod yn cyfuno dealltwriaeth gyfriniol ddofn â gweithredoedd cymdeithasol uniongyrchol
Gweler ein tudalen Newyddion Heddwch a Thystiolaeth Gymdeithasol i gael newyddion am brosiectau a gweithredoedd penodol
The members of the Environment and Sustainability Cluster of South Wales Quakers have been holding a regular silent vigil outside the Senedd in Cardiff to draw attention to the Climate Crisis and our commitment to a range of environmental issues, now they are joining Christian Climate Action Wales outside Barclay's bank in The Hayes, Cardiff.
See the Peace and Social Witness News page for more information
Mae aelodau Clwstwr yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd Crynwyr De Cymru wedi bod yn cynnal gwylnos dawel reolaidd y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd i dynnu sylw at yr Argyfwng Hinsawdd a’n hymrwymiad i amrywiaeth o faterion amgylcheddol; nawr, maen nhw'n ymuno â Christian Climate Action Wales y tu allan i fanc Barclay's yn Yr Aes, Caerdydd
Gweler tudalen Newyddion Heddwch a Thystion Cymdeithasol am ragor o wybodaeth
Quakers across South Wales have been engaged in peace education work. We support and work with Welsh Centre for International Affairs (WCIA) in its peace schools scheme. Britain Yearly Meeting also supports and encourages peace education.
Mae Crynwyr ar draws De Cymru wedi bod yn ymwneud â gwaith addysg heddwch. Rydym yn cefnogi ac yn gweithio gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) ar gynllun ysgolion heddwch. Mae Cyfarfod Blynyddol Prydain hefyd yn cefnogi ac yn annog addysg heddwch.
Quakers in South Wales have a long history of support for the Alternatives to Violence Project.
AVP Britain runs workshops, online and face to face, for anyone in the community and in prisons who wants to find ways of building better relationships and dealing with conflict positively. Participants can either join one of our community workshops, or we can organise bespoke group workshops in partnership with organisations/community groups.
Mae gan Grynwyr De Cymru hanes hir o gefnogi Prosiect Alternatives to Violence.
Mae AVP Prydain yn cynnal gweithdai, ar-lein ac wyneb yn wyneb, ar gyfer unrhyw un yn y gymuned ac mewn carchardai sydd am ddod o hyd i ffyrdd i feithrin perthnasoedd gwell ac ymdrin â gwrthdaro mewn ffordd gadarnhaol. Gall cyfranogwyr naill ai ymuno ag un o’n gweithdai cymunedol, neu gallwn drefnu gweithdai grŵp pwrpasol mewn partneriaeth â sefydliadau/grwpiau cymunedol.
The Swansea Meeting is working with Women4Resources to enable refugees and asylum seekers to grow fruit and vegetable in the Meeting House garden. Update: Hedyn #3 2023
The four West Wales Meetings have formed Quakers in West Wales Asylum Concern (QWWAC) because of the use of Penally Army Camp to house asylum seekers. They were able to give some support to the men and arranged a day out for them at a smallholding. They also supported the exhibition of paintings produced by the men. Members have provided support for Syrian and Ukrainian refugees in South West Wales.
Mae Cyfarfod Abertawe yn gweithio gyda Women4Resources i alluogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i dyfu ffrwythau a llysiau yng ngardd y Tŷ Cyfarfod. Diweddariad: Hedyn #3 2023
Mae’r pedwar Cyfarfod yng Ngorllewin Cymru wedi ffurfio Quakers in West Wales Asylum Concern (QWWAC) am fod Gwersyll y Fyddin ym Mhenalun yn cael ei ddefnyddio fel llety i geiswyr lloches. Roedd modd iddynt roi rhywfaint o gymorth i'r dynion a threfnu diwrnod allan iddynt ar fferm fechan. Gwnaethant hefyd gefnogi arddangosfa o baentiadau a grëwyd gan y dynion. Mae’r aelodau wedi rhoi cymorth i ffoaduriaid o Syria ac Wcráin yn Ne-orllewin Cymru.
Friends of Monze is celebrating more than 10 years of great achievements
Over 3,000 children are being educated in 13 safe, dry schools and building has started at 1 more school. We have also built 10 houses for qualified teachers. With literacy levels low we are working to equip schools with enough reading and text books, desks and solar powered laptops. We have provided sports equipment and drums. To improve nutrition for children and communities we have established 10 school gardens providing vegetables and fruit. By teaching permaculture gardening we have enabled communities to grow food crops in a sustainable manner using natural fertiliser and water harvesting. By planting trees at schools and Monze Correctional Facility we hope to reduce the effect of climate change.
Drilling or repairing 28 boreholes providing clean drinking water has prevented illness at schools and nearby households. We also teach hand-washing and soap-making.
Human rights and menstrual hygiene is taught in schools and communities to prevent early forced marriage and improve girls future life chances.
Mae Friends of Monze yn dathlu mwy na 10 mlynedd o gyflawniadau gwych
Mae dros 3,000 o blant yn cael eu haddysgu mewn 13 o ysgolion diogel a sych, ac mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar un ysgol arall. Rydym hefyd wedi adeiladu 10 o dai ar gyfer athrawon cymwysedig. Gyda lefelau llythrennedd yn isel, rydym yn gweithio i sicrhau bod gan yr ysgolion ddigon o lyfrau darllen a gwerslyfrau, desgiau a gliniaduron pŵer solar. Rydym wedi darparu offer chwaraeon a drymiau. Er mwyn gwella maetheg ymhlith plant a chymunedau, rydym wedi sefydlu 10 gardd ysgol er mwyn tyfu llysiau a ffrwythau. Trwy addysgu garddio permaddiwylliant rydym wedi galluogi cymunedau i dyfu cnydau bwyd mewn modd cynaliadwy gan ddefnyddio gwrtaith naturiol a chynaeafu dŵr. Trwy blannu coed mewn ysgolion ac yn y Monze Correctional Facility rydym yn gobeithio lleihau effaith newid hinsawdd.
Mae drilio neu atgyweirio 28 o dyllau turio sy'n darparu dŵr yfed glân wedi atal salwch mewn ysgolion a chartrefi cyfagos. Rydym hefyd yn addysgu golchi dwylo a gwneud sebon.
Mae hawliau dynol a hylendid mislif yn cael eu haddysgu mewn ysgolion a chymunedau i atal priodasau cynnar dan orfod a gwella cyfleoedd bywyd merched yn y dyfodol.
South Wales Area Meeting has a team of chaplains who work in every one of the four prisons and remand units across South Wales. The welfare of prisoners has been a Quaker concern since the early nineteenth century.
In recent years we have Quakers working as Hospital Chaplains.
We have also have Quakers working as chaplains to the blue light services, particularly the police.
Chaplaincy is about being there for people, being a listening heart, witnessing people at times of stress and change and helping them find comfort, advice and support.
Mae gan Gyfarfod Rhanbarth De Cymru dîm o gaplaniaid sy'n gweithio ym mhob un o'r pedwar carchar a’r unedau remánd ar draws De Cymru. Mae lles carcharorion wedi bod o bwys i'r Crynwyr ers dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae gennym Grynwyr yn gweithio fel Caplaniaid Ysbyty.
Mae hefyd gennym Grynwyr yn gweithio fel caplaniaid i'r gwasanaethau golau glas, yn enwedig yr heddlu.
Mae caplaniaeth yn ymwneud â bod yno i bobl, bod yn galon sy'n gwrando, bod yn dystion i bobl ar adegau o straen a newid a'u helpu i ddod o hyd i gysur, cyngor a chymorth.
Quakers in South Wales have taken part in the Ecumenical Accompaniment Programme in Palestine and Israel; an international, ecumenical programme that recruits and despatches observers (known as Ecumenical Accompaniers - EAs) to several Palestinian towns and villages to monitor the interaction between the Palestinian inhabitants and the Israeli military. The presence of EAs is intended to offer protection and to moderate friction. Abuses of authority are monitored and reported and EAs speak publicly of their experiences. The EAPPI was founded in 2002 under the auspices of the World Council of Churches, in response to requests from Heads of Churches in Jerusalem. Bishop Munib Younan of the Evangelical Lutheran Church in Jordan and the Holy Land is also one of the founders.
Accompaniers have four stated tasks: to offer protection through nonviolent presence; to monitor and report violations of human rights and international humanitarian law; to support Israeli and Palestinian peace activists; to undertake advocacy work including public speaking.
Mae Crynwyr De Cymru wedi cymryd rhan yn y Rhaglen Gyd-deithio Eciwmenaidd ym Mhalesteina ac Israel. Rhaglen eciwmenaidd ryngwladol yw hon sy'n recriwtio ac yn anfon arsylwyr (sy’n cael eu galw’n Gyd-deithwyr Eciwmenaidd) i nifer o drefi a phentrefi Palesteina i fonitro'r rhyngweithio rhwng trigolion Palesteina a byddin Israel. Bwriad presenoldeb y Cyd-deithwyr Eciwmenaidd yw cynnig amddiffyniad ac i gymedroli anghydfodau. Mae achosion o gamddefnyddio awdurdod yn cael eu monitro a'u hadrodd, ac mae’r Cyd-deithwyr Eciwmenaidd yn siarad yn gyhoeddus am eu profiadau. Sefydlwyd y rhaglen yn 2002 dan nawdd Cyngor Eglwysi’r Byd, mewn ymateb i geisiadau gan Benaethiaid Eglwysi yn Jerwsalem. Mae'r Esgob Munib Younan o'r Eglwys Efengylaidd Lwtheraidd yn yr Iorddonen a'r Wlad Sanctaidd hefyd yn un o'r sylfaenwyr.
Mae gan y Cyd-deithwyr bedair tasg benodol: cynnig amddiffyniad trwy bresenoldeb di-drais; monitro ac adrodd ar achosion o dorri hawliau dynol a chyfraith ddyngarol ryngwladol; cefnogi ymgyrchwyr heddwch Israel a Phalesteina; ymgymryd â gwaith eiriolaeth gan gynnwys siarad yn gyhoeddus.
.........................................................................................................................................................................................................................................
Banner/top image is from the Remembering Hiroshima event organised by Pembrokeshire Peace Group and local Quakers in Hwlffordd ~ Haverfordwest