Insights and values ~ Dealltwriaeth a gwerthoedd

The testimonies

Y tystiolaethaurem

Over the centuries Quakers have tried to live out their lives with deep honesty. Four "testimonies" have emerged as guides to living.

The Quaker tradition of being guided by the spirit, of testing our leadings, openings and concerns, of seeking clearness and "right ordering", have all shaped the testimonies over time.

 

Dros y canrifoedd mae’r Crynwyr wedi ceisio byw eu bywydau â gonestrwydd dwfn. Daeth pedair “tystiolaeth” i'r amlwg fel canllawiau i fyw.

Mae traddodiad y Crynwyr o gael ein harwain gan yr ysbryd, o brofi ein harweiniadau, ein hagoriadau a'n gofalon, o geisio eglurder a “threfn gywir”, oll wedi siapio'r tystiolaethau dros amser.

Testimony

Truth and integrity

It has been suggested that integrity is our most fundamental testimony.

Quakers try to build personal integrity into everything: a Quaker's word is their bond.

It includes religious and spiritual integrity; knowing that we all only ever see partially; know incompletely. We are reminded "Think it possible that you may be mistaken." (Advices and Queries 17).

Quakers value spiritual authenticity, exploration and honesty, even when that is uncomfortable.

Quakers are encouraged to seek the truths at the root of what is said and done rather than being satisfied with popular opinion.

Quakers try to avoid polarising divisions, knowing that there are many perspectives, each with some merit. 

Traditionally, Quakers do not swear oaths because we try to tell the truth at all times, not just when an oath is given. But we also know that truth must be told with compassion and kindness.

Quakers work to promote truth and integrity in public life and in our media.

Equality of all

From the beginnings of Quakerism in the mid seventeenth century the spiritual equality of everyone has been practised. All people, whether long standing or newly among us, are equally capable of being moved to minister in our meetings, to speak the truth. All should be listened to with deep respect.

This has led to Quakers being among the first to promote women's ministry and involvement in our governance, and to have children's and young people's meetings on an equal footing with those of adults.

It led to Quakers playing a significant role in the anti-slavery movement, and engaging with anti-racism these days.

Also Quakers were amongst the first in Britain to celebrate same sex / equal marriage.

Peace and peaceful living

Our practice of "silent waiting" – which is deeply meditative, contemplative and prayerful – opens us to that place of stillness and calm in which our tradition is rooted. 

Our Quaker ways encourage peaceful interactions with everyone we encounter. We try to live peacefully in the world, and encourage others to do so, promoting non-violent methods.

Our life is love, and peace, and tenderness; and bearing one with another, and forgiving one another, and not laying accusations one against another; but praying one for another, and helping one another up with a tender hand. Isaac Penington, 1667

Our refusal to take part in wars, but instead to focus on providing relief, refuge and promoting reconciliation, is the best known aspect of our testimony, and the one for which we were awarded the Nobel Peace Prize in 1947.

Our peace testimony is why Quakers invest time and effort in peace building, both nationally and internationally.

Simplicity, sustainability and stewardship

Simplicity played a large part in the way Quakers lived in the early years; plain speech, plain dress, "letting your yes be yes and your no be no" and not accumulating frivolous goods or property. It was a direct consequence of living with integrity.

Questioning what you consume and how much you consume, how you live and what the consequences are of the choices you make, are still important, as is how you invest or are employed.

In light of the climate crisis the idea of living simply has once more come into focus. We are encouraged to reduce our carbon footprint and to make sustainable choices. In 2011 Quakers agreed the Canterbury Commitment to build a low carbon, sustainable community. In South Wales we are partners with Climate Cymru.

The stewardship of what you have and have inherited, individually, and collectively as the Society of Friends, has also become of greater concern. We think not only of how we live, but what we will pass on to those yet to come. This ranges from ethical investment, to preserving what is best so that it will be there for others.

The produce of the earth is a gift from our gracious creator to the inhabitants, and to impoverish the earth now to support outward greatness appears to be an injury to the succeeding age.

John Woolman, 1772

 

TYSTIOLAETHn

Gwirionedd a didwylledd

Y mae wedi’i awgrymu mai didwylledd yw ein tystiolaeth fwyaf sylfaenol.

Mae’r Crynwyr yn ceisio ymgorffori didwylledd personol ym mhopeth: gair Crynwr yw eu haddewid.

Mae’n cynnwys didwylledd crefyddol ac ysbrydol; gwybod mai’n rhannol yn unig rydym ni oll yn gweld; gwybod yn anghyflawn. Cawn ein hatgoffa: “Ystyriwch y gellwch fod yn camsynied.” (Cynghorion a Holiadau 17).

Mae’r Crynwyr yn gwerthfawrogi dilysrwydd, archwilio a gonestrwydd ysbrydol, hyd yn oed pan fydd hynny'n anghyfforddus.

Caiff y Crynwyr eu hannog i geisio’r gwirioneddau sydd wrth wraidd yr hyn sy’n cael ei ddweud a’i wneud yn hytrach na bod yn fodlon â barn boblogaidd.

Mae’r Crynwyr yn ceisio osgoi ymraniadau sy’n polareiddio, gan wybod bod yna lawer o safbwyntiau, a bod i bob un rywfaint o rinwedd.

Yn draddodiadol, nid yw’r Crynwyr yn tyngu llwon am ein bod yn ceisio dweud y gwir bob amser, nid dim ond wrth dyngu llw. Ond rydym hefyd yn gwybod bod yn rhaid dweud y gwir â thosturi a charedigrwydd.

Mae’r Crynwyr yn gweithio i hybu gwirionedd a didwylledd mewn bywyd cyhoeddus ac yn ein cyfryngau.

Cydraddoldeb

O ddechreuad Crynwriaeth yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg mae cydraddoldeb ysbrydol pawb wedi cael ei arfer. Mae pob person, boed yn hirsefydlog neu’n newydd yn ein plith, yr un mor alluog i gael eu symud i weinidogaethu yn ein cyfarfodydd, ac i siarad y gwir. Dylid gwrando ar bawb â pharch dwfn.

Yn sgil hyn, roedd y Crynwyr ymhlith y cyntaf i hybu gweinidogaeth gan fenywod a’u cynnwys yn ein trefniadau llywodraethu, ac i gynnal cyfarfodydd plant a phobl ifanc ar sail gyfartal â chyfarfodydd oedolion.

Drwy hyn, chwaraeodd y Crynwyr ran sylweddol yn y mudiad gwrthgaethwasiaeth, ac maent yn ymwneud â gwrth-hiliaeth ar hyn o bryd. 

Roedd y Crynwyr hefyd ymhlith y cyntaf ym Mhrydain i ddathlu priodasau o’r un rhyw / cyfartal.

Heddwch a byw'n heddychlon

Mae ein harfer o "aros yn dawel" – sy'n fyfyrgar a gweddigar iawn – yn ein hagor i'r man hwnnw o lonyddwch a thawelwch y mae ein traddodiad wedi'i wreiddio ynddo. 

Mae ein ffyrdd fel Crynwyr yn ein hannog i ymwneud yn heddychlon â phawb y down i gyswllt â nhw. Ceisiwn fyw'n heddychlon yn y byd, ac rydym yn annog eraill i wneud hynny, gan hybu dulliau di-drais.

“Our life is love, and peace, and tenderness; and bearing one with another, and forgiving one another, and not laying accusations one against another; but praying one for another, and helping one another up with a tender hand.” 

Isaac Penington, 1667

Y ffaith ein bod yn gwrthod cymryd rhan mewn rhyfeloedd, ond yn hytrach yn canolbwyntio ar ddarparu rhyddhad a lloches a hybu cymod, yw'r agwedd fwyaf adnabyddus ar y dystiolaeth hon, ac am hyn y dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel i ni ym 1947.

Ein tystiolaeth heddwch yw pam mae’r Crynwyr yn buddsoddi amser ac ymdrech mewn adeiladu heddwch, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Symlrwydd, cynaliadwyedd a stiwardiaeth

Roedd symlrwydd yn rhan fawr o’r ffordd yr oedd y Crynwyr yn byw yn y blynyddoedd cynnar; siarad yn blaen, gwisgo’n blaen, “gadael i'ch ie fod yn ie a'ch na fod yn na” a pheidio â chasglu nwyddau nac eiddo ofer. Roedd yn ganlyniad uniongyrchol i fyw’n ddidwyll.

Mae cwestiynu beth rydych chi'n ei ddefnyddio a faint rydych chi'n ei ddefnyddio, sut rydych chi'n byw a beth yw canlyniadau'r dewisiadau a wnewch, yn dal i fod yn bwysig, ynghyd â sut rydych chi'n buddsoddi neu'n cael eich cyflogi.

Yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd mae'r syniad o fyw yn syml wedi dod i ffocws unwaith eto. Cawn ein hannog i leihau ein hôl troed carbon a gwneud dewisiadau cynaliadwy. Yn 2011 cytunodd y Crynwyr ar Ymrwymiad Caergaint i adeiladu cymuned gynaliadwy carbon isel. Yn Ne Cymru rydym yn bartneriaid gyda Climate Cymru.

Mae stiwardiaeth o’r hyn sydd gennym a’r hyn rydym wedi'i etifeddu, yn unigol ac ar y cyd fel Cymdeithas y Cyfeillion, hefyd wedi dod yn destun mwy o ofal. Rydym yn meddwl nid yn unig am sut rydym yn byw, ond yr hyn y byddwn yn ei drosglwyddo i'r rhai sydd eto i ddod. Mae hyn yn amrywio o fuddsoddi moesegol, i gadw'r hyn sydd orau fel y bydd yno i eraill.

“The produce of the earth is a gift from our gracious creator to the inhabitants, and to impoverish the earth now to support outward greatness appears to be an injury to the succeeding age.”

John Woolman, 1772

 

Spiritual insights

Dealltwriaeth ysbrydol

Centuries of silent waiting for inspiration, connecting with that which is eternal, which is deeper and wider than we can see, has led to a way based on experience, not on doctrines, beliefs or creeds. As George Fox said "And this I knew experimentally." (Quaker faith and practice 19.02) an extremely radical claim, one which Quakers still live by.

The Quaker educators, Wilmer A Cooper (Professor of Quaker Studies, Earlham School of Religion, 1959-85) and Max Carter (Director of Friends Center at Guilford College, 1990-2015) suggested that Quakers have four profound spiritual insights won by experience. Ben Pink Dandelion, the British Quaker sociologist and theologian, holds that Quakers should be open to transformation as a result of such insights.

Mae canrifoedd o aros yn dawel am ysbrydoliaeth, gan gysylltu â'r hyn sy'n dragwyddol, sy'n ddyfnach ac yn ehangach nag y gallwn ei weld, wedi arwain at ffordd sy'n seiliedig ar brofiad, nid ar athrawiaethau na chredoau. Fel y dywedodd George Fox “And this I knew experimentally.” (Ffydd ac Arferion y Crynwyr 19.02). Dyma beth hynod radical i’w arddel, ac mae’r Crynwyr yn dal i’w arddel.

Awgrymodd yr addysgwyr o Grynwyr, Wilmer A Cooper (Athro Astudiaethau’r Crynwyr, Ysgol Grefydd Earlham, 1959-85) a Max Carter (Cyfarwyddwr Canolfan y Cyfeillion yng Ngholeg Guilford, 1990-2015) fod gan y Crynwyr bedair dealltwriaeth ysbrydol ddwys a enillwyd drwy brofiad. Mae Ben Pink Dandelion, cymdeithasegydd a diwinydd y Crynwyr ym Mhrydain, yn awgrymu y dylai’r Crynwyr fod yn agored i drawsnewid o ganlyniad i ddealltwriaeth o'r fath

Insights

Direct and immediate experience

It is suggested that the fundamental practice of Quakerism is opening to the inner light, the inward light, the seed, that which is of God within, the inner Christ, that which speaks to your condition, that which moves your soul, the holy spirit… Quakers have always been fuzzy about how to express this because it is about a mystical experience which is felt, not discovered by reason or learned from dogma. Words can be misleading, drawing people away from experience. As George Fox said in his Journal, people can be "tossed up and down with windy doctrines". It is the practice of silent waiting which leads to direct and immediate experience.

"… But I told them what it was, namely, the Holy Spirit, by which the holy men of God gave forth the scriptures, whereby opinions, religions and judgments were to be tried; for it led into all Truth, and so gave the knowledge of all Truth." (George Fox, 1649: Quaker faith and practice 19.24)

Perception of what is experienced in that deep silence may change. That is why there are both theistic and non-theistic Quakers. That is why, as we become seasoned by the experience, we may profoundly and radically alter our understanding: it is a mystical experience which is beyond words.

Continuing revelation

The Bible was felt by many Quakers to be a secondary source, being the words of fallible men inspired by their direct experience as best as they were able, having only the measure of truth that was given to them at the time.

It seems that very few words of the Bible were written by women, and probably none at all in the New Testament. Many words in Quaker faith and practice are by women. Quakers have always accepted that revelations can come to women just as much as to men.

Seeking revelation is at the heart of the Quaker process of discernment – the process of decision making used in many Quaker contexts  through seeking clearness, to our regular business meetings. This is why our business meetings are called Meetings for Worship for Business, because we are seeking for continuing revelations as to the way forward.

Direct experience is there for everyone, not just those in the past, and may contain new revelations which could be sparked by many different encounters in many different places or contexts, or with many different people.

That is why Quakers have no difficulty accepting the discoveries of the sciences or developments in other disciplines: these may all lead to new revelations.

Revelations might come from outside the Christian tradition. That is why many Friends, such as Quaker Universalists, are inspired by the texts and teachings of other religions. Revelation may also come from within the texts and teachings of all the different Christian traditions.

The sacredness of everything

Everywhere, at all times, there is the potential for a deep communion. Our everyday actions may become sacred by being invested with love, kindness, awe or wonder.

Equally, the actions of others, regardless of whether they are Christian or not, may be sacred because they too are invested with love, kindness, awe or wonder.

Every person is a unique creation. The simplest and most mundane deeds can be vehicles of grace. Any time or place can be full of wonder. In life, and within ourselves, there may well be an ocean of darkness, but over it there flows an ocean of light.

Artificially "sacred" times and places are the inventions of people, which is why Quakers do not celebrate religious festivals or follow the liturgical calendar: all times and places are sacred.

Quaker Meeting Houses are simply places where it is convenient to meet and which may be of service to the community. They are not imagined to be consecrated in the way churches are. Quaker Meeting Houses often had their own burial grounds because Quakers were not permitted to be buried in church graveyards but they are not “holy ground” 

We come to Meeting to collectively centre ourselves by the practice of silent waiting, and to prepare ourselves for the sacred encounters we may have in our everyday lives in the days that follow.

Following spiritual leadings

As the early Quakers found, being rooted in experience, not in doctrines or beliefs, can lead to profound "openings". These can include "leadings" that compel us into action, which is why Quakers have often felt "moved" to take part in protests, charity work, or acts of conscience. Most famously anti-slavery, prison reform, conscientious objection and peace work.

Quakers have been involved in the founding of many charities because of their "being under a concern". (Save the Children, Oxfam, Amnesty International, Greenpeace, Joseph Rowntree Foundation, Extinction Rebellion, and many others). In such work we unite with people who share our "concern" whatever their religious background. Quakers acknowledge that others are also being "obedient to their light", how-so-ever they experience it.

Quakers are encouraged to live up to the "measure of light you have"; to responding to callings; to live by the testimonies; to be of service; to attend to what love requires. We try to conduct our affairs in "right ordering".

DEALLTWRIAETH

Profiad uniongyrchol a di-oed

Caiff ei awgrymu mai arfer sylfaenol Crynwriaeth yw agor i'r golau mewnol, y golau tuag i mewn, yr hedyn, yr hyn sydd o Dduw oddi mewn, y Crist mewnol, yr hyn sy'n siarad â'ch cyflwr, yr hyn sy'n symud eich enaid, yr ysbryd sanctaidd... Mae’r Crynwyr bob amser wedi bod yn niwlog am sut i fynegi hyn am ei fod yn ymwneud â phrofiad cyfriniol sy'n cael ei deimlo, nid yn cael ei ddarganfod drwy reswm na’i ddysgu o ddogma. Gall geiriau fod yn gamarweiniol, gan dynnu pobl oddi wrth brofiad. Fel y dywedodd George Fox yn ei Ddyddlyfr, gall pobl gael eu lluchio i fyny ac i lawr gan athrawiaethau gwyntog. Yr arfer o aros yn dawel sy'n arwain at brofiad uniongyrchol a di-oed.

"… But I told them what it was, namely, the Holy Spirit, by which the holy men of God gave forth the scriptures, whereby opinions, religions and judgments were to be tried; for it led into all Truth, and so gave the knowledge of all Truth." 

(George Fox, 1649: Ffydd ac Arferion y Crynwyr 19.24)

Gall canfyddiad o'r hyn sy’n cael ei brofi yn y tawelwch dwfn hwnnw newid. Dyna pam mae yna Grynwyr theistig a Chrynwyr antheistig. Dyna pam, wrth i ni gael ein haeddfedu gan y profiad, y gallwn newid ein dealltwriaeth yn ddwfn ac yn sylweddol: mae'n brofiad cyfriniol sydd y tu hwnt i eiriau.

Datguddiad parhaus

Roedd llawer o Grynwyr yn teimlo mai ffynhonnell eilaidd oedd y Beibl, sef geiriau dynion ffaeledig wedi eu hysbrydoli gan eu profiad uniongyrchol gystal ag y gallent, ond â’r gyfran o wirionedd a roddwyd iddynt ar y pryd yn unig.

Mae’n ymddangos mai ychydig iawn o eiriau'r Beibl a ysgrifennwyd gan fenywod, ac mwy na thebyg nad oes unrhyw eiriau yn y Testament Newydd a ysgrifennwyd gan fenywod. Mae llawer o eiriau yn Ffydd ac Arferion y Crynwyr wedi’u hysgrifennu gan fenywod. Mae’r Crynwyr bob amser wedi derbyn y gall datguddiadau ddod i fenywod yn llawn cymaint ag i ddynion.

Mae chwilio am ddatguddiad wrth wraidd proses y Crynwyr o ddirnadaeth – y broses o wneud penderfyniadau sy’n cael ei defnyddio yn llawer o gyd-destunau’r Crynwyr, o geisio eglurder, i'n cyfarfodydd busnes rheolaidd. Dyma pam fod ein cyfarfodydd busnes yn cael eu galw’n Gyfarfodydd Addoli ar gyfer Busnes, am ein bod yn chwilio am ddatguddiadau parhaus ynghylch y ffordd ymlaen.

Mae profiad uniongyrchol yno i bawb, nid dim ond i rai yn y gorffennol, a gall gynnwys datguddiadau newydd a allai gael eu sbarduno gan lawer o wahanol gyfarfyddiadau mewn llawer o wahanol leoedd neu gyd-destunau, neu gyda llawer o wahanol bobl.

Dyna pam nad yw’r Crynwyr yn cael unrhyw anhawster wrth dderbyn darganfyddiadau'r gwyddorau neu ddatblygiadau mewn disgyblaethau eraill: gallai’r rhain i gyd arwain at ddatguddiadau newydd.

Gallai datguddiadau ddod o’r tu allan i'r traddodiad Cristnogol. Dyna pam mae llawer o Gyfeillion, fel Cyfanfydwyr o Grynwyr, yn cael eu hysbrydoli gan destunau a dysgeidiaeth crefyddau eraill. Gall datguddiad hefyd ddod o fewn testunau a dysgeidiaeth yr holl draddodiadau Cristnogol gwahanol.

Sancteiddrwydd popeth

Ymhobman, bob amser, mae potensial ar gyfer cymundeb dwfn. Gall ein gweithredoedd bob dydd ddod yn gysegredig wrth i ni fuddsoddi cariad, caredigrwydd, parch neu ryfeddod ynddynt.

Yn yr un modd, gall gweithredoedd pobl eraill, waeth a ydynt yn Gristnogion ai peidio, fod yn gysegredig am eu bod hwythau hefyd wedi’u buddsoddi â chariad, caredigrwydd, parch neu ryfeddod.

Mae pob person yn greadigaeth unigryw. Gall y gweithredoedd symlaf a mwyaf cyffredin fod yn gyfryngau gras. Gall unrhyw amser neu le fod yn llawn rhyfeddod. Mewn bywyd, ac oddi mewn i ni ein hunain, gallai’n wir fod yna fôr o dywyllwch, ond drosto mae yna fôr o oleuni yn llifo.

Dyfeisiadau pobl yw amseroedd a lleoedd artiffisial o “sanctaidd”, a dyna pam nad yw’r Crynwyr yn dathlu gwyliau crefyddol nac yn dilyn y calendr litwrgïol: mae pob amser a phob lle yn gysegredig.

Mannau lle mae'n gyfleus cyfarfod ac a all fod o wasanaeth i'r gymuned yw Tai Cyfarfod y Crynwyr. Nid oes dychmygu eu bod wedi’u cysegru yn y ffordd y mae eglwysi. Yn aml, roedd gan Dai Cyfarfod y Crynwyr eu claddfeydd eu hunain am ni chaniatawyd i Grynwyr gael eu claddu mewn mynwentydd eglwysi, ond nid ydynt yn “dir sanctaidd”. 

Rydym yn dod i'r Cyfarfod i ganoli ein hunain gyda'n gilydd trwy’r arfer o aros yn dawel, ac i baratoi ein hunain at y cyfarfyddiadau cysegredig y gallwn eu cael yn ein bywydau bob dydd yn y dyddiau sy'n dilyn.

Dilyn arweiniadau ysbrydol

Fel y gwnaeth y Crynwyr cynnar ganfod, gall ymwreiddio mewn profiad, nid mewn athrawiaethau neu gredoau, arwain at “agoriadau” dwys. Gall y rhain gynnwys “arweiniadau” sy'n ein cymell i weithredu, a dyna pam mae’r Crynwyr yn aml wedi teimlo eu bod wedi’u “symud” i gymryd rhan mewn protestiadau, gwaith elusennol, neu weithredoedd cydwybodol. Yn fwyaf adnabyddus, gwrthgaethwasiaeth, diwygio carchardai, gwrthwynebiad cydwybodol a gwaith heddwch.

Mae’r Crynwyr wedi bod yn rhan o sefydlu llawer o elusennau am eu bod “o dan ofal”. (Achub y Plant, Oxfam, Amnest Rhyngwladol, Greenpeace, Sefydliad Joseph Rowntree, Gwrthryfel Difodiant, a llawer mwy). Mewn gwaith o'r fath rydym yn uno â phobl sy'n rhannu ein “gofal” beth bynnag yw eu cefndir crefyddol. Mae’r Crynwyr yn cydnabod bod eraill hefyd yn “ufudd i'w goleuni”, sut bynnag y maen nhw’n ei brofi.

Caiff y Crynwyr eu hannog i fyw yn ôl y “gyfran o oleuni sydd gennych chi”; i ymateb i alwedigaeth; i fyw yn ôl y tystiolaethau; i fod o wasanaeth; i roi sylw i’r hyn sy’n ofynnol gan gariad. Ceisiwn ymgymryd â’n gwaith yn ôl “trefn gywir”.

Wire dove image is part of a 2012 gold medal winner at RHS artwork, commissioned for Quaker Concern for the Abolition of Torture. It is in the garden of the Woodbrooke Quaker Study Centre

Mae delwedd y golomen wifren yn rhan o waith buddugol y fedal aur yng ngwaith celf RHS 2012, a gomisiynwyd ar gyfer Quaker Concern for the Abolition of Torture. Mae wedi’i osod yng ngardd Woodbrooke, Canolfan Astudio’r Crynwyr.

.........................................................................................................................................................................................................................................

Banner image shows children gathered on the floor around a tray of candles

.......................................................................................................................................................................................................................................

Mae delwedd y faner yn dangos plant wedi ymgynnull ar y llawr yng ngolau cannwyll.