Croeso ~ Welcome

Mae croeso i bawb ddod i Gyfarfod y Crynwyr. Nid oes gennym gredoau gofynnol, ond gadawn i bawb dyfu yn eu profiad ysbrydol. Rydym yn eistedd mewn tawelwch gyda’n gilydd, ac o’r tawelwch hwn y mae ein geiriau a’n hysbrydoliaeth yn codi. Mae'r hyn sydd gennych i’w gynnig, beth bynnag yw eich cefndir, yn rhodd unigryw ac yn arbennig. Rydym ni i gyd yn chwilwyr ar lwybr o dwf ysbrydol. Rydym ni i gyd yn dysgu o brofiadau bywyd a dealltwriaeth ysbrydol pobl eraill. Beth allech chi ei ddarganfod? Beth allai ddod o addoliad sy’n seiliedig mewn tawelwch? 

Everyone is welcome to come to a Quaker Meeting. We do not have required beliefs, but let everyone grow in their spiritual experience. We sit in shared silence from which our words and inspirations arise. What you bring, whatever your past, is a unique gift and is special. We are all seekers on the path of spiritual growth. We all learn from the life experience and spiritual insights of others. What might you discover? What might come from worship based in silence?

Mae ein traddodiad radical yn seiliedig ar yr arfer o aros tawel cymunedol sy'n debyg i fyfyrdod, gyda llawer o'r un buddion, ond sy'n llwybr ysbrydol o ddod o hyd i'r canol tawel dwfn hwnnw y gall y golau mewnol ddisgleirio iddo, gan drawsnewid ein bywydau ac arwain yr hyn a wnawn.

Our radical tradition is based on the practice of communal silent waiting which is similar to meditation, with many of the same benefits, but which is a spiritual pathway of finding that deep calm centre into which the inner light can shine, transforming our lives and guiding what we do.

Mae rhai Crynwyr yn Gristnogol iawn, ond mae eraill yn antheistiaid, yn gyfanfydwyr, yn ddyneiddwyr, neu'n dod o gefndiroedd ffydd eraill.

Some Quakers are deeply Christian, but others are non-theist, universalist, humanist, or from other faith backgrounds.

"… Pery addysg ysbrydol gydol bywyd, yn aml mewn ffyrdd annisgwyl. Ceir ysbrydoliaeth o’n hamgylch ym mhobman, ym myd natur, yn y gwyddorau a’r celfyddydau, yn ein gwaith a’n cyfeillgarwch, yn ein gofidiau fel yn ein llawenydd. A ydych yn agored i oleuni newydd, o ba ffynhonnell bynnag y dêl? A ydych yn ddetholgar wrth ystyried syniadau newydd?"
(Cynghorion a holiadau 7)

"… Spiritual learning continues throughout life, and often in unexpected ways. There is inspiration to be found all around us, in the natural world, in the sciences and arts, in our work and friendships, in our sorrows as well as in our joys. Are you open to new light, from whatever source it may come? Do you approach new ideas with discernment?"
(Advices & Queries 7)

Nid oes gan y Crynwyr unrhyw hierarchaeth, offeiriaid na gweinidogion. Yn hytrach, caiff Cyfeillion eu gwahodd i ymgymryd â rolau mewn Cyfarfodydd, fel arfer am dair blynedd ar y tro, fel gwasanaeth i gymuned y Crynwyr a thu hwnt. Nid yw’r Crynwyr byth yn pleidleisio, ond yn dod at ein gilydd i ddirnad y ffordd ymlaen a rhoi arweiniad i’r sawl sy’n ymgymryd â’n rolau.

Quakers have no hierarchy, priests or ministers. Instead, Friends are invited to fill roles in Meetings, usually for three years at a time, as service to the Quaker community and beyond. Quakers never vote but come together to discern the way forward and to guide our role holders.

Mae Cyfarfod Rhanbarth De Cymru yn dwyn ynghyd 13 o Gyfarfodydd lleol y Crynwyr a dau grŵp llai ar draws De Cymru. Mae'n cefnogi'r gymuned o Gyfeillion sy'n ymgynnull yn lleol, yn rhanbarthol ac ar-lein er mwyn iddynt gael eu cyfoethogi’n ysbrydol. Mae’r Cyfarfod Rhanbarth hefyd yn cynnal llawer o faterion busnes y gymuned ehangach hon o Grynwyr.

South Wales Area Meeting brings together thirteen local Quaker Meetings and two smaller groups across South Wales. It supports the community of Friends who gather locally, regionally and online for spiritual enrichment. Area Meeting also conducts many of the business affairs of this wider Quaker community.

Ydych chi ar lwybr y Crynwyr heb sylweddoli hynny?
Are you on the Quaker path without realising it?  

Image in the page banner shows a meeting for worship in a barn